Darllen yn y Saesneg | Darllen yn y Gaeleg
Croeso i adroddiad blynyddol Cod Carbon y Coetiroedd 2024 i 2025.
Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur wrth i ni barhau i helpu rheolwyr tir i ddatblygu prosiectau carbon coetiroedd ledled y DU.
Ein heffaith
Mae’r cod yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol at greu coetiroedd a thargedau nwyon tŷ gwydr y DU.
Yn 2024 i 2025, dilyswyd 141 o brosiectau i’r cod, gan gwmpasu bron 5,000 hectar.
Rhagwelir y bydd prosiectau a ddilyswyd i’r cod yn awr yn atafaelu dros 29.1 miliwn tunnell fetrig o’r hyn sy’n cyfateb i garbon deusocsid dros eu hoes.
Datblygiad a gwelliant
Rydym wedi ymrwymo i wella a datblygu’r cod er mwyn i ni allu cael hyd yn oed mwy o effaith yn y dyfodol.
Eleni, rydym wedi ehangu ein tîm, wedi gwella ein gweithgaredd cyfathrebu ac ymgysylltu a chymryd mesurau ychwanegol i gryfhau’r prosesau sy’n ategu’r cod, gan gynnwys contractau prynwr gwerthwr.
Rydym yn llawn cyffro i fod yn rhan o’r Her Technoleg Sifil, sy’n archwilio sut y gallwn ddefnyddio technolegau arloesol i wneud ein prosesau monitro a gweinyddu yn fwy hygyrch, cywir ac effeithlon.
Cyd-destun ehangach
Mae datblygiadau pwysig wedi bod mewn marchnadoedd natur. Rydym yn falch o weld cyhoeddi:
- Egwyddorion Uniondeb Gwirfoddol a Marchnadoedd Natur Llywodraeth y DU
- Fframwaith Marchnad Gyfalaf Naturiol Llywodraeth yr Alban
- Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar egwyddorion budsoddi cynaliadwy
Rydym hefyd wedi ymgysylltu â’r dilyniant o safonau marchnad natur sy’n cael eu datblygu gan y Sefydliad Safonau Prydeinig.
Mae’r cynlluniau hyn yn gydnabyddiaeth bwysig o werth marchnadoedd natur gwirfoddol o uniondeb uchel mewn mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth.
Diolch
Hoffwn i ddiolch i’n holl sefydliadau partner, datblygwyr prosiectau a phrynwyr carbon am eich cymorth dros y flwyddyn ddiwethaf.
Trwy weithio gyda’n gilydd, rydym yn gwneud cyfraniad hollbwysig i’n hamgylchedd naturiol ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Pat Snowdon
Pennaeth Economeg a’r Cod Carbon Coetir
Coedwigaeth yr Alban
Anfonwch e-bost atom os hoffech ofyn am fersiwn Gaeleg neu Gymraeg o’r adroddiad blynyddol hwn.